Canlyniadau Chwilio - Polo, Marco, 1254-1324

Marco Polo

Masnachwr a fforiwr o'r Eidal oedd Marco Polo (; 15 Medi 12548 Ionawr 1324). Aeth ar daith hir dros Asia i Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Yuan, gan ddilyn Llwybr y Sidan o arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir a thrwy Ganolbarth Asia a Mongolia i Tsieina. Cofnodwyd ei deithiau yn ''Livres des merveilles du monde'' ("Llyfr Rhyfeddodau'r Byd") gan Rustichello da Pisa, llyfr a gyflwynodd Canol Asia a Tsieina i'r Ewropeaid.

Dysgodd y grefft o farchnata gan ei dad a'i ewyrth (Niccolò a Maffeo Polo) a deithiodd drwy Asia ac a ddaethant wyneb yn wyneb gyda Kublai Khan. Yn 1269 y cychwynodd y tri eu taith gan ddychwelyd 24 blynedd yn ddiweddarach – i ganol rhyfel rhwng Fenis a Genova. Carcharwyd Marco a llefarodd ei helyntion yn Asia wrth ei gyd-carcharor Rusticello da Pisa, a gofnododd y cyfan ar ei ran. Cafodd ei ryddhau yn 1299 a daeth yn fasnachwr cyfoethog; priododd a chawsant dri o blant. Bu farw yn 1324 ac fe'i claddwyd yn Eglwys San Lorenzo, Fenis. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3
Mireinio'r Canlyniadau
  1. Le devisement du monde : le livre des merveilles. gan Polo, Marco, 1254-1324

    Cyhoeddwyd 1980.
    Llyfr
  2. The Travels of Marco Polo. gan Polo, Marco, 1254-1324

    Cyhoeddwyd 1953.
    Llyfr
  3. As viagens de Marco Polo. gan Polo, Marco, 1254-1324

    Cyhoeddwyd 1950.
    Llyfr